|
|
| AGA Coetiroedd Dyffryn Gwy |
Coetiroedd rhannau is Dyffryn Gwy, ar y ffin rhwng de Cymru a Lloegr, yw un o’r ardaloedd pwysicaf o ran cadwraeth coetiroedd yn y Deyrnas Unedig.
Mae coetir lled-naturiol yn drwch a bron yn barhaus ar hyd 18 milltir o geunant afon Gwy o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Dyffryn Gwy. Ceir coetiroedd ynn o fewn cymysgedd ddyrys o fathau eraill o goetiroedd brodorol, gan gynnwys coetiroedd ffawydd, yw a derw. Ceir poblogaethau o bwys rhyngwladol o rywogaethau megis ystlumod pedol mwyaf a lleiaf, mantell wen, pathew, llaethlys Mynwy a berwr chwerw culddail yng ngheunant afon Gwy.
Dan y Prosiect BYWYD Coed Dyfnentydd, rheolir 884 ha o’r AGA mewn 13 o safleoedd ar gyfer cadwraeth gan English Nature, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth, AHN Dyffryn Gwy a'r Ymddiriedolaeth Coetiroedd. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys arolygon archeolegol ac ecolegol, tocio, teneuo, cael gwared â rhywogaethau anfrodorol, rheoli ceirw a gwella mynediad ar gyfer gwaith rheoli.
 |
 |
Atgynhyrchwyd y map hwn o fap yr Arolwg Ordnans gan English Nature, gyda chaniatâd AO ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi. © Y Goron. Cedwir pob hawl. Mae atgynhyrchu heb ganiatâd yn torri Hawlfraint y Goron a gall arwain at erlyniad neu achos Sifil. Rhif Trwydded: GD272299
Cliciwch y map i'w chwyddo. |
|
|