|
Ceir coetir dyfnant neu Tilo-Acerion yn y priddoedd maeth-gyfoethog sy’n aml i’w cael ar droed llethrau a dyffrynnoedd mewn ardaloedd o ddaeareg calchfaen. Mae’r coetiroedd brodorol hyn, yn nodweddiadol, yn cynnwys rhywogaethau fel onnen, llwyfen lydanddail a phalalwyfen ac maent yn hafan i amrywiaeth anhygoel o blanhigion, trychfilod ac anifeiliaid.
Mae’r enghreifftiau uchaf eu safon o’r math hwn o goetir yn Ewrop wedi eu dynodi’n Ardal Gadwraeth Arbennig (AGA) dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd y Gymuned Ewropeaidd. Daw’r safleoedd hyn yn rhan o rwydwaith Undeb Ewropeaidd o safleoedd cadwraeth o safon a elwir yn Natura 2000.
Prosiect BYWYD Coed Dyfnant
Bydd y Prosiect Bywyd coed dyfnant, a gydlynir gan WWF-UK, yn rhedeg tan fis Rhagfyr 2006 a’i nod yw:
• Sicrhau ymarferoldeb ecolegol tymor-hir dau goetir dyfnant AGA o bwys rhyngwladol sy’n ymestyn dros 2,973 ha yng Nglynnoedd Ardal y Copaon a Dyffryn Gwy, trwy weithio mewn partneriaeth a than reolaeth gydlynedig.
• Datblygu atebion arloesol i fynd i’r afael â bygythiadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sy’n wynebu’r coetiroedd hyn a’r cynefinoedd cysylltiedig.
• Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y cynefinoedd coetir hyn o fewn rhwydwaith Natura 2000 a rhannu’r profiadau a gafwyd.
Bydd gwaith Prosiect BYWYD coed dyfnant yn cynnwys:
• Rhaglen o arolygon a monitro ecolegol er mwyn dylanwadu ar waith rheoli.
• Gweithio gyda chymunedau a pherchnogion tir i weithredu rheolaeth gadarnhaol a fydd yn adfer coetiroedd brodorol i statws cadwraeth ffafriol trwy weithgarwch a fydd yn cynnwys: cael gwared â rhywogaethau anfrodorol, atgyweirio ffensys a waliau i reoli mynediad da byw; tocio a theneuo coed i hyrwyddo strwythur coetir amrywiol ac adfywiad naturiol.
• Trwy ymweliadau safle a chyhoeddiadau, hyrwyddo adfer cynefinoedd a rheoli cadwraeth.
• Datblygu marchnadoedd newydd a thraddodiadol ar gyfer cynnyrch coetir.
|