|
|
| Testun AGA Glynnoedd Ardal y Copaon |
Y coed ynn a welir yng nglynnoedd calchfaen serth ardal White Peak ym Mharc Cenedlaethol Ardal y Copaon yw’r ardaloedd mwyaf o’r math hwn o gynefin yng ngwledydd Prydain.
Mae’r mosaïg o gynefinoedd coetir, prysgwydd a glaswelltir o fewn y Glynnoedd hyn yn cynnal cymunedau cyfoethog o greaduriaiad-di-asgwrn-cefn a phlanhigion, gan gynnwys rhywogaethau prin megis y glöyn byw brithribin gwyn, rhyfon mynydd, ysgol Jacob a llysiau Steffan mynyddig .
Mae’n bosib y gallai perchnogion coetiroedd o fewn ardal Prosiect BYWYD Coed Dyfnant gael nawdd ar gyfer gwaith cadwraeth mewn coetir, megis ffensio, cael gwared â rhywogaethau anfrodorol, rheoli a theneuo prysgwydd.
Trwy’r Prosiect BYWYD Coed Dyfnant, mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Derby, English Nature, y Comisiwn Coedwigaeth a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bwriadu cwblhau amrywiol waith a tharo cytundebau rheoli dros 2,089 ha o’r AGA.
 |
 |
Atgynhyrchwyd y map hwn o fap yr Arolwg Ordnans gan English Nature, gyda chaniatâd AO ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi. © Y Goron. Cedwir pob hawl. Mae atgynhyrchu heb ganiatâd yn torri Hawlfraint y Goron a gall arwain at erlyniad neu achos Sifil. Rhif Trwydded: GD272299
Cliciwch y map i'w chwyddo. |
|
|