| Prosiect BYWYD coed Dyfnant |
Bydd y Prosiect Bywyd coed dyfnentydd, a gydlynir gan WWF-UK, yn rhedeg tan fis Rhagfyr 2006 a’i nod yw:
• Sicrhau ymarferoldeb ecolegol tymor-hir dau goetir dyfnentydd AGA o bwys rhyngwladol sy’n ymestyn dros 2,973 ha yn y Peak District Dales a Dyffryn Gwy, trwy weithio mewn partneriaeth a than reolaeth gydlynedig.
• Datblygu atebion arloesol i fynd i’r afael â bygythiadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sy’n wynebu’r coetiroedd hyn a’r cynefinoedd cysylltiedig.
• Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y cynefinoedd coetir hyn o fewn rhwydwaith Natura 2000 a rhannu’r profiadau a gafwyd.
Partneriaeth y Prosiect
Partneriaeth sy’n derbyn arian cyfatebol gan y Gymuned Ewropeaidd, a reolir gan WWF-UK gyda English Nature, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, AHNE Dyffryn Gwy, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Derby a’r Ymddiriedolaeth Coetiroedd.
Y Rhaglen BYWYD Natur
Mae'r Rhaglen BYWYD yn gynllun gan y Gymuned Ewropeaidd sy’n darparu nawdd i annog datblygiad cynaliadwy a chyfrannu tuag at weithredu polisïau amgylcheddol y Comisiwn Ewropeaidd.
|